Home

Gareth Jones Books

Gareth Jones

Childhood

Colley Family

My Hobbies

Siriol's Photos

Earl of Abergavenny

The Land Girl in 1917

All Articles of interest

 

Gareth Jones  Lloyd George

 

Major Edgar Jones

Sharm el Sheikh

Book Purchase

Links

Contact Address

EDGAR JONES

Return to Index Major Edgar Jones

TEYRNGED

gan

Alun Oldfield-Davifes a ddarlledwyd yng ngwasnaeth

Cymreig y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig, Sadwrn, Mai 2, 1953, am 7.0 p.m.

 

Ar waethaf ei waeledd yn ystod y misoedd diwethaf bu farw Major Edgar Jones yn ddyn ifanc. Dyna'r peth amlycaf amdano a dyna'r peth oedd yn taro pawb a'i gwelodd ac a fwynhaodd ei gwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf - ei ieuengrwydd.

Eang iawn fu cylch ei wasanaeth a'i gymwynasgarwch ar hyd ei oes faith, ond fe soniaf i yn awr am ei gysylltiad a'r Gorfforaeth Ddarlledu. Yr oedd ef yn un o'r rhai cyntaf yn ein plith i ganfod cymaint y gallai darlledu ddylanwadu er gwell neu er gwaeth ar fywyd Cymru ac yr oedd yn hollol nodweddiadol ohono mai trwy gyd-weithio a chynorthwyo yn y dirgel yn hytrach na trwy ymfflamychu ac areithio yn yr amlwg y gwelai Edgar Jones ei ffordd i ddangos ei ddiddordeb. Bu'n gynghorwr doeth chytbwys yn y blynyddoedd anodd cyn sefydlu Cymru fel uned darlledu ar wahan i Orllewin Lloegr ac wedi hynny llafuriodd yn ddiwyd i sylfaenu darllediauau Cymraeg I Ysgolion ac i drefnu darlledu gwasanaethau crefyddol. Ond yr oedd yr barod ei gymorth a'i gymwynas ymhob adran o’r gwaith - cymerai ran yn y stiwdio os byddai galw, darllenai'r newyddion, cyflwynodd amryw byd o siaradwyr ar y radio, ac yr oedd stamp ei gymeriad bonheddig ar bobeth a wnai. Ifanc ei ysbryd, eang ei ddiddiordebau as charedig ei galon, fe ymhyfrydai yn y newydd-beth hwn - y radio, a charai gwmni'r pobl ifainc a ymgasglai yn y Ty Darlledu. Hoffent hwy ei gwmni yntau yr oedd neb yn cael gwell croeso na Major i ymuno â'r cmwni dros gwpanned o de yn y cântin neu i chware tennis ar fwrdd yn y clwb. Anodd oedd credu ei fod yn hen o ran oedran ac yntau hyd yn ddiweddar mor hoenus a sionc o ran corff ac ysbryd, a chaem dipyn o sioc ar ganol sgwrs am beldroed neu chware arall i 'w glywed yn sydyn yn sôn am ryw gem a fu yn 1882 neu 1883, a deall ei fod yn adnabod cewri o 'r oesau a fu.

Gwr caredig ydoedd heb fymryn o falais yn ei galon.Unwaith erioed y gwelais i ef wedi colli ei dymer ond ni allai fod yn gas hyd yn oed y pryd hynny. Yr oedd clymblaid o wŷr wedi cipio pob swydd a sedd ar bwyllgor o Gymeideithas a oedd yn agos iawn at galon Major Edgar, ac yr oedd yn ddig nid am eu bod wedi ennll y dydd ond am y gwyddai nad budd a lles y gymdeithas honno oedd yn eu cymell ond eu buddiannau gwleidyddol hwy eu hunain, ac ni fu llewyrch ar y gymdeithas honno byth wedyn. Yr oedd yn gas ganddo hen driciau cyfrwys dichellgar. Yr oedd ef ei hun mor agored, mor onest, mor ddidwyll a phlentyn bach - hyn yn ddiau a'i cadwodd yn ifanc a hoyw hyd y diwedd.

Hefyd   Loss to Welsh Radio

 

Return to Biography

 

Copyright reserved 2009