Home

Gareth Jones Books

Gareth Jones

Childhood

Colley Family

My Hobbies

Siriol's Photos

Earl of Abergavenny

The Land Girl in 1917

All Articles of interest

 

Gareth Jones  Lloyd George

 

Major Edgar Jones

Sharm el Sheikh

Book Purchase

Links

Contact Address

Y DDINAS DDUR

gan A. Gwen Jones.

Rhagfyr 15 1943

Rehearsa1: 4.0 p.m.            

 

Pan g1ywaf ar y radio yr enwau Kieff, Charkov, Krivol-Rog ac yn enwedig Stalino, y ddinas ddur, a’r newyddion am lwyddiant y Rwsiaid yno, bydd fy meddwl yn mynd ‘nol dros hanner can mlynedd, a daw darluniau byw o’r llefydd hyn o flaen fy llygaid. Pan glywais fod Stalino wedi ei ail gymryd gan y Rwsiaid, meddyliais am y Stalino yr oeddwn yn nabod mor dda, canys bum yn byw yno yn ferch ifanc am dair blynedd, ond enw arall. oedd i’r lle yr amser hwnnw - sef Hughesovka, tref a alwyd felly fel nod o anrhydedd i’w sylfaenydd, Cymro o Ferthyr o’r enw John Hughes.  Engineer oedd John Hughes a dynnodd sylw’r Tzar Alexander yr ail trydydd, a’r 1lywodraeth Rwsiaid, trwy ei allu technegol pan oedd yn arolygydd y Millwall Docks, Llundain. Yr oedd llywodraeth Rwsia yn awyddus i ehangu eu rheilffyrdd ac i ddatblygu gweithfeydd haearn a glo yn eu gwlad eu hun. Cofiaf glywed yn aml fel y gwahoddwyd Mr. Hughes i sefydlu gweithfeydd yn Rwsia; yn wir ‘rwy’n cofion dda y plaque arian a roddodd y Tzar iddo fel anrheg.  Derbyniodd Mr. Hughes y gwahoddiad ac aeth o amgyich y wlad, a dewisodd fan ar wastadeddau unig y Steppes, yn neheudir Rwsia, lle nad oedd and bugail a’i gi i’w gwelod. Ond yr oedd y lle hwn yn gyfoethog mewn glo a haearn, ac heb fod ymhell o Daganrog a Mariupol, porthladdoedd ar fôr Azov. Nid oedd mwngloddiau haearn Krivoi-Rog ymhell iawn a daethant hwythau yn eiddo I Gwmni Newydd Rwsla. — y Novorossiskoe Obshchestvo, a ffurfiwyd yn 1869. ‘Rwy’n cofio i ni ymwe1ed a Chrivoi-Rog yn 1892.

Yn 1889 pan gyrhaeddais Hughesovka yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu o ddim i oddeutu hanner can mil, (50,000) a’glofeydd a’r gweithfeydd haearn a dur ar lawn waith. Mae Stalino n’awr yri un o brif ganolfarmau rheilffyrdd dyffryn Donetz, ond yn1889 yr unig reilffyrdd i’r de oedd iTaganrog a Mariupo1 – y stesion agosaf ar llinell i’r gogleddd trwy Charkov oedd Charsisky. Yr oeddom yn dyrfa o bob gwlad ac laith — ( Rwsiaid, Pwyliaid, Ellmyn, Belgiaid~ Iddewon, Tartariaidd a Georgiaid o Tiflis yn y Caucasus cartref Stalin) ac yn eu mysg gwnni bychan o Saeson a Chymry. Daeth John Hughes a gweithwyr profiadol. gydag e o Ddowlais, Merthyr a Rhymney yr amser hwnnw yr oedd tua deg a thrigan o Gymry yno, ond clywais fod yna fwy un adeg. ‘Rwyn cofio rhai ohonynt Mr. Watkins a briododd Miss Curtis o Rhymney. Mr. Holland a fu yn Gemiat yng ngweithfeydd Dowlais, y teulu James ac erail]. • Ond y gwr a gofiaf orau oedd John John o Ddowlais, Cymro o’r math gorau, dyn y gellid ymddiried ~ynddo’n drvryadl. Byddwn yn mwynhau siarad gydag e yn Gymraeg. Yr amser yna nid oedd y gweithwyr yn cael eu talu ond un waith y mis ac yr oedd arian y cyflogau yn dod o Daganrog o dan warchod. Bu John Hughes farw ym Mehefln 1889, ychydig fisoedd cyn i mi gyrraedd Hughesovka fel athrawes i ddwy ferch Ifanc Mr. a Mrs. Arthur Hughes. Yr ail o bedwar mab John Hughes oedd Arthur Hughes; a ‘r wraig oedd Miss Augusta James o Lanovor, Sir Fynwy.  Diddorol i lawer Cymro ydyw’r ffaith mai’r bardd Islwyn a’u priododd. Gyda llaw trwy bregethwr mawr arall y Parch. Dr. Saunders, Abertawe, yn an-union~gyrcho1, y cefais i’r cyfle i fynd i  Rwsia.

Cofiaf y daith hir araf gydar teulu trwy Ewrop, gan aros rhai dyddiau yn Berlin, Warsaw (lle y collais fy ffordd a chael fy hunan yn y Ghetto), wedyn Kieff a Charkov Daw darlun byw o dref hynafol. a sanctaidd Kieff o flaen fy llygald; croesi’r afon lydan y Dnieper, ac edmygu’r llu mawr o eglwys I gyda’u tyrrau a tu domes euraidd yn disgleirio yn yr awyr las, Gwelais yno dorf o bererinion wedi cerdded ar hyd y ffordd o Siberia bell. Yna Charkov gyda’i Phrifysgol ardderchog a’i ffeiriau byd-enwog, Or diwedd cyrraedd gorsaf Charsisky wedi llwyr flino. Yno yr oedd cerbydau yn in cyfarfod i fynd â ni i Hughes ovka.  Nid anghofiaf byth y teimlad o unigrwydd llethol a’m llanwodd wrth deithio dros wastadoddau llwm, digoed, diderfyn y Steppes; dim rhyfedd i hiraeth am Gymru bron fy llwyr orchfygu.

Ond bur diddordob yn y bywyd diarth oedd o em hamgylch a’r awydd naturiol i weld popeth newydd yn help i mi deimlo’n gartrefol Hughesovka. Yr oeddem yn byw mewn tý’ mawr ynghanol gardd eang a waliau uchol o’i gwmpas er mwyn diogelwch, ac yr oedd yna wylwyr yn edrych ar o1 y lle dros y nos, ond ni eflid dibynnu arnynt bob amser.

  Nid oedd bywyd yno yn anniddorol nac heb amrywiaeth. Cymerai llythyrau a phapurau o gartref tuag un diwrnod ar ddeg i’n cyrraedd ac yn amyl yr oeddynt wedi eu sensro. Ni chianiateid i rai llyfrau i ddod i mewn i’r wlad.            ~

  Deuai ymwelwyr yno o bob gwlad ac iaith, engineers a myfyrwyr o Foscow, Petersburg (Leningrad nawr) ac hyd yn oed o Siberia bell.  Unwaith daeth Llywodraethwr Talaith Ekaterinoslav, Dnepropotrovsk y’i gelwir nawr i aros gyda ni.  Cyrrhaeddodd y tý gyda seromoni mawr yn cael ci hebrwng gan gwmni o Gossacks ar geffylau. Yr oedd gan rai ymwelwyr straeon oedd yn ddiddorol a chyffrous lawn i ferch ifanc fel fi.  Dyma’r amser y gelwid y chwyl-dro-ad-wyr yn Nihilists.  Dywedwyd wrthyf fy mod yn nabod rhai o honynt ac r‘wyf yn cofio yn dda i mi gael fy rhybuddio am siarad geiriau di-ofal, yn hollol ddiniwed, gan na wyddem pwy fyddai ymysg yr ymwelwyr i’r tý. Yr oedd y polis yn arolygu ac edrych i mewn i bobpeth yn fanwl iawn, a rhaid. oedd bod yn ofalus. Yr oeddynt yn strict iawn wrth chwilio ein passports.  Yr wyf wedi cadw fy hen bassport sydd wedi ei arwyddo gan yr Arglwydd Salisbury-  prif weinidog yr amser hynny. Yr oeddem yn gallu mwynhau ein hunain mewn sawl ffordd.  Gwyddoch fod y Rwsiaid yn gerddorion a chantorion ardderchog. Un waith bob wytbnos yr oeddem yn clywed miwsig o’r radd uchaf ac yn aml yn caol y fraint o glywed boneddiges Polish Madame Yancharski yn canur piano. Yr oedd hi wedi bod yn ddisgybl i Rubinstein ac yr oedd Paderewski yn un o’i chyfeillion.

  Nid anghofiaf byth y canu godidog yn yr Eglwys Roegaidd yn Hughesovka. Daeth y newydd yn ddiweddar fod Stalin wedi cydnabod Patriarch yr Eglwys yn Rwsia ag atgofion o lawer gwasanaeth y bum ynddo, yn enwedig gwasanaeth y noson cyn y Pasg. Gwnaeth y gwasanaeth hwn gyda’i seremoni a miwsig ardderchog y côr, yn enwedig lleisiau dwfn y Bass argraff ddofn arnaf. Yr oedd yr olygfa tu fewn i’r eglwys yn llanw un ag ysbryd addoliad. Yr oedd yr eglwys yn orlawn, pawb yn sefyll a chanwyllau yn eu llaw; nid oes seti yn yr Eglwys Roegaidd. Ar ganol nos, fe darawa cloc yr eglwys, yna daw’r offeiriaid yn. eu gwisgoedd hardd ysblenydd a chanant “Cyfododd Grist.” Penlinia pob un or gynulloidfa, ymgroesa, ac ateba yn ddiau fe a gyfododd;” yna fe gân y côr emyn arbennig y Pasc; maer holl glychau yn canu ar eglwys i gyd yn disgleirio â goleuadau prydferth. Yna cyfarcha pob un ei gilydd â thri chusan a bloeddiant yn llawen “Cyfododd Crist,” a bydd pawb yn cydorfoleddu. Anodd peidio edmygu y dull manwl y cedwir ympryd y Grawys (Lent) ond cyn gynted y byddai gwyl y Pasc drosodd yr oeddynt yn ymroddi yn ormodol i wledda a byddai’r ysbyty yn llawn,

  Un o'n prif bleserau oedd hela - yr oedd yno faint a fynner o lwynogod a ‘sgyfarnogod, ond ni chaniateid i ni’r merched uno i hela bleiddlaid o herwydd y perigl. Byddai swyddogion y Cossacks yn aml yn dod allan gyda ni ac yr oeddent yn gallu marchogaeth yn rhyfedd. Yr oed y cŵn hela wedi dod o ystad y Court, Merthyr Tydfil a chan fy mod i wedi bod yn ddisgybl yn ysgol y Court, Morthyr. o dan y tair Misses Edwards, yr ooddwn yn teimlo diddordeb yn y cŵn.

Nid anghofiaf chwaith y sglefrio ar lyn y gwaith, a’n teithiau ar sledges dros yr eira disglair, gyda chlychau’rtroika, y tri ceffyl yn canu’n felodaidd yn yr awyr glir. Yr oedd yna dipyn o flas anturiaoth mewn sledgo dros y steppes, gan y byddai llawer o gŵn hanner bleiddiaid weithiau yn ein dilyn a rhaid oedd i Ivan, in gyrrwr ddefnyddio’r whip Iw cadwtn ôl.

Pan oeddwn yn byw yn Rwsla nid oedd ond dau ddosbarth o bobl.  Yr oeddem ni mewn safle i weld y gwahaniaeth mawr oedd rhwng y ddau. Yr oedd safon bywyd ymysg y mujiks - y bobl gyffredin yn isel iawn ac nid oedd newyn yn beth anghyffredin mewn rhai ardaloedd. Yr oeddynt yn byw mewn tai bychain gwael o goed, gydag un llawr. Nid oedd yno ddim cyfleusterau i sicrhau cysur ac iechyd ond yn unig stove fawr oedd bron yn llenwir ystafell. Arni hi yn aml y cysgent y nos. Wrth gwrs yr oedd tai y gweithwyr yn Hughesovka yn llawer iawn gwell. Ymhob ty chwi welech Ikon sef darlun cysegredig ac nid yw un ty heb ei Samovar, lle stri I wneuthur tê. Yr oeddwn yn hoffi’r mujiks; yr oeddynt yn garedig, yn ddidaro, yn wir grefyddol mewn ffordd syml a diniwed. Gwynebant bob amlwc heb rwgnach – Nitchevo” meddant gan godi eu hysgwyddau. Yr oeddynt yn amyneddgar a chall, yn llawn o synnwyr cyffredin a hiwmor. Ond fe1 pob Rwsiad yn ofergoelus iawn.

Ar nosweithau pryd oedd y tywydd in braf, byddent yn cyfarfod a’i gillydd tu faes pentref - yna byddent yn siglo ar swings a chanu gan daro dwylo, a bron wastad yn bwyta hadau sunflowers.  Byddent yn hoff iawn o ddawnsio ac yr oeddent yr mwynhau bywyd cymdeithasol gyda’i gilydd. Rhaid dweud fod pawb yn hoff or dcliod gyffredin “ Kvass” ac os gallant ei gael y ddiod gryfach byth “ Vodka.”

Ar wyliau arbennig yr oedd yn bleser edrych ar y merched yn eu gwisgoedd prydferth, y brodwaith arnynt yn gywrain a thlws, eu gwallt wedi eu blethun hardd a ribanau a beads o bob 11iw am eu gyddfau. ‘Rwy’n cofio’n arbennig un tro pan oeddem yn mynd mewn sledge dros wastadedd y steppes inni glywed draw yn y pellter ryw ganu trist yn torri an y distawrwydd – pobl y pentre oeddynt yn canu am wrhydri eu cyndadau. Ni allwn anghofio ei swyn am amser maith a byddai fy meddwl yn hedeg yn ol i Gymru a’i. thonau lleddf a hiraeth eto yn codi yn fy mron. Yr oedd y dosbarth hwn y pryd hynny heb allu darllen.  Un o’r amryw bethau atm tarawodd yn y dref ar y cyntaf oedd y signs ar bob siop; danlunlau oeddynt ac nid goiriau, er esiampl, an siop y cigydd gweloch lun buwch neu ddafad, ac felly an bob siop y rheswm wrth gwrs oedd na allent ddarllen. Mae cyfnewidiad mawr wedi dod ar y wlad yn hyn o beth. Ar fore Sul y cynhelid y farchnad, a gwelid y sgwâr o amglych yr Eglwys o chwech otr gloch y bore ymlaen yn llawn o bobl y wlad gyda’u cynnyrch • Yr oedd pris pethau yn rhad iawn, ‘wydd neu dwrki am swillt a chyw am chwecheiniog.  Wrth gwrs mewn kopecks a roubles y talwyd am danynt

Mewn cyferbyniad ‘r’ oedd y dosbarth arall yn elthriadol o ddiwylliedig.  Yr oeddynt-yn byw mewn tai mawr ar eu ystadau gyda nifer fawr o weithwyr a morwynion. Gallent siarad sawl iaith ac yr oeddont yn darllen yn ehang.   Synnwyd fi fwy nag unwaith eu bod yn gwybod gymaint am brif ysgrifenwyr Saesneg y dydd. Yr awdwr Rwsiad y sonient am dano fwyaf oedd Pushkin, ond ychydig a glywais ganddynt am Tolstoi.  Frangêg oedd eu hail iaith a chlywais bron fwy o Ffrangêg nag a Rwieg. Iaith galod oedd Rwsiog i ddysgu. Fel y dywedais yr oeddent yn hoff iawn a fiwsig a dawnaio ac yn rhy hoff o chawareu cardiau. Pobl ddiofa a  --fater oeddent ond eto yn garedig dros ben a llawer o swyn y perthyn iddynt.

Ni chaniata amser i mi sôn am lawer o arferion diddorol araf  y wlad; nac am y tywydd eithafol - gwres llethol yr hâf, oerni llym ac eira dwfn y gaea’hu Clywais i wr ifanc o Rhymney golli ei fywyd mewn storm o eira sydyn ac enbyd. Deuai gwres tanbaid yr haf â llawer o afiechyd fel, Dysentery. Bu bron i ml farw o’r clefyd hwn ond am ofal meddyg a Armeniad a oedd yn un o ddoctoriaid Ysbyty’r Gwaith.

Yn 1892 daeth y Cholera i’r dre a gorfu i ni’r teulu iffoi o’r lle a herwydd y Riots a achoswyd trwy ofn ac anwybodaeth. y bobl. Yr oedd y Riots yn ddigon pwysig i Bapurau Llundain eu croniclo. Ond er gorfod gadael Rwsia fel hyn, mewn brys, teimlwn yn eitha trist wrth ganu ffarwel i lawer o ffrindiau yno. R’oeddwn wodi cael caredigrwydd rhyfedd gan lawer yn enwedig gan Mr. a Mrs • Arthur Hughes, ac yr oeddwn wedi dod i garu’r wlad ai phobl, ac yn y dyddiau diweddar hyn yr wyf yn llawenhau yn llwyddiant eithradol y Rwsiaid.

 

Copyright reserved 2009